Gofynnir i’ch plentyn lenwi arolwg byr ar ei iechyd a’i les fel rhan o’n rhwydwaith iechyd ysgolion cynradd – HAPPEN (www.happen-wales.co.uk). Gofynnir cwestiynau iddo fel faint o ymarfer corff mae’n ei wneud, pa mor dda mae’n gallu canolbwyntio, pa weithgareddau yr hoffai roi cynnig arnynt yn yr ysgol a pha mor hapus ydyw yn yr ysgol a gyda’i ffrindiau. Defnyddir y canlyniadau i helpu ysgolion sicrhau bod eu disgyblion yn iachach ac yn hapusach (e.e. rhoi egwyl yn y prynhawn i alluogi plant i fod yn fwy egnïol). Os hoffech weld yr holiadur, mae ar gael yma.

Hoffem roi gwybod i chi am y canlynol:

Gofynnir i’ch plentyn roi ei gydsyniad i gymryd rhan yn yr holiadur hwn.

Mae cyfranogiad eich plentyn yn wirfoddol a gallwch dynnu eich plentyn yn ôl ar unrhyw adeg.

Efallai bydd ymchwilwyr sy’n aelodau o’r tîm Ymchwil Rhwydwaith Ysgolion Cynradd ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ar y data a gesglir.

Gellir cysylltu’r atebion mae eich plentyn yn eu rhoi yn ddienw (e.e. ni ellir adnabod eich plentyn, ond gallwn weld a yw plant gydag asthma, er enghraifft, yn gwneud yn well neu’n waeth yn yr ysgol) â chofnodion meddygol ac addysgol. Gwneir hyn yn ddienw ac NI ALLWN adnabod unrhyw blentyn unigol wrth gysylltu â chofnodion iechyd neu addysg.

Gofynnir i ysgol eich plentyn ddarparu eich cod post i’r tîm ymchwil. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i edrych ar sut mae’r ardal a’r amgylchedd lleol yn effeithio ar iechyd.

Taflen Wybodaeth i Rieni 

(Fersiwn 2.0, Dyddiad 11/12/2018)

Teitl y Prosiect:  HAPPEN – Rhwydwaith Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd

Darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus.

Invitation Paragraph: Mae’r plant yn nosbarth eich plentyn wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaeth fydd yn edrych ar y berthynas rhwng iechyd, lles a chyrhaeddiad addysgol.

1. Beth yw pwrpas yr astudiaeth?

Bydd y data rydym yn ei gasglu gan yr holl blant sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn ein helpu i asesu iechyd, ffitrwydd a hapusrwydd y plant yn yr ysgol a’u lles a’u haddysg gyffredinol.

2. Pam mae fy mhlentyn wedi cael ei ddewis?

Mae pob plentyn yn nosbarth eich plentyn, gan gynnwys eich plentyn, wedi’i wahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Os nad yw eich plentyn yn teimlo’n hapus ynglŷn ag unrhyw beth y gofynnir iddo ei wneud, gall stopio ar unrhyw adeg, heb ofni cael ei gosbi, a bydd yn cael ei atgoffa am hyn trwy gydol yr astudiaeth. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch am yr astudiaeth, cysylltwch ag unrhyw aelod o’r tîm gan ddefnyddio’r manylion uchod.

3. Beth fydd yn digwydd i’ch plentyn os bydd yn cymryd rhan?

Gofynnir i’ch plentyn roi ei gydsyniad i lenwi holiadur ar-lein am ei iechyd, ei les a’i ffordd o fyw, a fydd yn cymryd tua 30 munud. Mae’r holiadur yn cael ei lenwi gyda’r athro dosbarth yn bresennol yn yr ystafell dosbarth. Efallai y bydd yr holiadur yn cael ei ailadrodd o fewn 12 mis er mwyn edrych ar newidiadau mewn iechyd a lles. Mae’r holiadur a ddefnyddir yn union yr un fath â’r holiadur sylfaenol. Hefyd, efallai y bydd ysgol eich plentyn yn gweld pa mor bell y gall eich plentyn redeg mewn chwe munud. Bydd hyn yn rhan o wers addysg gorfforol. Hoffem gynnwys y pellter rhedeg ar y cyd â holiadur eich plentyn (er mwyn gweld sut mae ffitrwydd, cyrhaeddiad yn yr ysgol a lles yn gysylltiedig mewn plant). Hefyd, byddwn yn defnyddio gwybodaeth eich plentyn er mwyn cysylltu data. Mae hyn yn golygu y bydd enw eich plentyn yn cael ei newid yn rhif a’i gofnodi mewn cronfa ddata ddienw. Caiff hyn ei wneud gan drydydd parti y gellir ymddiried ynddo: sef Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Pan fydd y wybodaeth yn y gronfa ddata ddienw, ni ellir olrhain y rhifau yn ôl i enwau’r plant. Gellir defnyddio’r gronfa ddata i ymchwilio i gofnodion eraill fel canlyniadau arholiadau a chofnodion meddyg. Ni fydd modd adnabod eich plentyn yn ystod y broses hon, a’r unig ffordd o weld y data cyswllt yw fesul grŵp (er enghraifft, p’un a oedd y grŵp oedd yn gwneud ymarfer corff yn fwy iach na’r grŵp nad oeddent yn gwneud hynny).

4. Beth yw anfanteision posibl cymryd rhan?

Bydd yr holiadur yn cael ei lenwi mewn modd sensitif mewn grŵp yn yr ystafell ddosbarth. Nid oes rhaid i’ch plentyn gymryd rhan yn yr holiadur os nad yw’n dymuno gwneud hynny. Cewch chi/eich plentyn eich atgoffa o’ch hawl i dynnu yn ôl ar unrhyw adeg, heb roi rheswm, ar wahanol gamau yn yr astudiaeth.

5. Beth yw manteision posibl cymryd rhan?

Gall cymryd rhan yn yr astudiaeth hon roi dealltwriaeth well i ni o effaith iechyd a lles ar addysg, ac annog ysgolion i gymryd rhan mewn mentrau ysgolion yn y dyfodol. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn gallu bod yn brofiad pleserus i blant, a byddant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn holiadur cyffrous efallai nad ydyn nhw wedi cymryd rhan ynddo o’r blaen.

 6. A fydd fy mhlentyn sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn aros yn gyfrinachol?

Mae’r holl ddata rydym yn ei gasglu yn cael ei gadw’n breifat ac yn gyfrinachol; bydd enwau’r plant yn cael eu newid yn rhifau. Bydd unrhyw gopïau caled o’r data’n cael eu cadw mewn swyddfa ddiogel a bydd ffeiliau cyfrifiadurol ac unrhyw wybodaeth bersonol yn cael eu diogelu gan gyfrinair. Unigolion cyfrifol o’r tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn unig fydd yn edrych ar y data a gesglir.

7. Beth os oes gennyf unrhyw gwestiynau? Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o’r tîm ymchwil (gweler y manylion cyswllt isod). Ar ôl yr astudiaeth, os byddwch chi’n poeni am sut cafodd unrhyw agwedd ar yr ymchwil ei gynnal, cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Moeseg yr Ysgol Feddygaeth ar: sumsresc@swansea.ac.uk

Os nad ydych chi eisiau i’ch plentyn lenwi’r holiadur, llenwch y ffurflen isod:

//