Annwyl ddisgybl

Beth ydyn ni eisiau ei wybod?

Sut wyt ti’n teimlo am dy iechyd a dy hapusrwydd

Pam ydyn ni eisiau gwybod hyn?

Darganfod a yw bod yn iach ac yn hapus yn cael effaith ar ba mor dda rwyt ti’n ei wneud yn yr ysgol.

Sut galli di gymryd rhan?

– Ateb cwestiynau am sut rwyt ti’n teimlo am dy iechyd a dy hapusrwydd.

– Gadael i ni edrych ar dy gofnodion ysgol a meddygol i weld sut gall gwella dy iechyd a dy hapusrwydd helpu i wella pa mor dda rwyt ti’n ei wneud yn yr ysgol. Bydd hyn yn ddienw, sy’n golygu y bydd dy enw’n cael ei newid yn rhif fel na fyddwn yn gallu dy adnabod a fyddwn ni byth yn gwybod pwy wyt ti.

I dy helpu i benderfynu:

Does dim rhaid i ti benderfynu heddiw, felly cymer amser i feddwl am y peth.

Dy hawliau:

– Ti sy’n penderfynu a wyt ti’n hapus i gymryd rhan. Does dim rhaid i ti ddweud ‘ie’.

– Cyn penderfynu a wyt ti eisiau cymryd rhan, efallai yr hoffet ti siarad gyda dy rieni neu gyda ffrind.

– Os byddi di’n cymryd rhan, bydd popeth yn breifat ac yn ddienw, sy’n golygu na fydd yr ymchwil yn defnyddio dy enw.

– Os byddi di’n cymryd rhan, galli di newid dy feddwl ar unrhyw adeg heb roi rheswm, ac ni fydd hynny’n broblem o gwbl.

Byddwn yn cadw dy ymatebion mewn ffeil, mewn man diogel wedi’i warchod.

Os hoffet ti wybod mwy am sut rydyn ni’n gofalu am dy ddata, clicia yma
Os hoffet ti wybod mwy am beth rydyn ni’n ei wneud gyda dy ddata, clicia yma

I WNEUD AROLWG HAPPEN CLICIWCH YMA

*Sylwch, mae’r arolwg yn gweithio orau ar ddyfais pan gaiff ei gynnal mewn tirwedd*

Gallwch ddarllen ein datganiad GDPR yma